Brendan Rodgers
 Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb gydag ymosodwr Middlesbrough Leroy Lita.

Fe gytunon nhw i dalu £1.75 miliwn yn gynharach yr wythnos hon, a’r p’nawn yma roedd y Cadeirydd Huw Jenkins yn falch o fedru cadarnhau eu bod wedi cytuno ar amodau cyflogi’r ymosodwr yn dilyn trafodaethau gyda’r chwaraewr a’i asiant.

“Rwyf i a Brendan (Rodgers) yn falch o fod wedi dod i gytundeb gyda Leroy,” meddai Huw Jenkins.

“Fel y dywedais o’r blaen, roedd Leroy yn un o brif dargedau’r rheolwr pan gyrhaeddodd yn Abertawe flwyddyn yn ôl.”

Yn 26 oed, mae rheolwr Abertawe Brendan Rodgers yn ‘nabod Lita ers eu dyddiau gyda’i gilydd yng nghlwb Reading.