Mae un o berchnogion Wrecsam yn dweud fod y clwb pêl-droed wedi rhedeg allan o arian.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yma yn amlinellu pa mor wael yw sefyllfa ariannol Wrecsam a pha mor fregus yw ei dyfodol os na chaiff cytundeb ei daro yn fuan.

Bu rhaid canslo eu dwy gêm gyfeillgar nesaf gan nad yw cyflogau’r chwaraewyr wedi cael eu talu’r mis yma, ac mae nifer ohonyn nhw yn gwrthod chwarae os na ddaw cyflog i’r fei.

Dywedodd Geoff Moss mewn datganiad i’r wasg fod y clwb yn chwilio am rywun i fuddsoddi arian er mwyn i’r clwb fedru talu ei ddyledion – bil treth o £45,000 a chyflogau’r chwaraewyr a’r staff.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn ystyried gadael y wlad er mwyn diogelu ei deulu wedi iddo dderbyn bygythiadau niferus i’w fywyd.

Mae’r trafodaethau hirfaith ynglŷn â chytundeb cyfredol Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr i feddiannu’r Clwb yn dal i barhau, ond maent wedi cael eu gohirio a’u rhwystro nifer o weithiau.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod yn obeithiol y gall y cytundeb gael ei gwblhau, a bod dyfodol disglair i’r clwb, cyn belled fod y rhai sydd ynghlwm â’r ddêl ddim yn brawychu’n ormodol gyda’r sefyllfa bresennol.