Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi derbyn dau gynnig anhysbys arall gan unigolion neu grwpiau sydd am roi help llaw ariannol i’r clwb.

Cyhoeddwyd datganiad gan y cyfarwyddwyr ar wefan y clwb yn dweud fod gan y ddau “gysylltiadau blaenorol gyda’r clwb, ac mi fyddem ni’n cwrdd gyda nhw yn ystod y dyddiau nesaf.”

Ychwanegodd “fod yr ymdrech bresennol i drosfeddiannu’r clwb wedi ei oedi, ac mae’n rhaid i ni ymchwilio i bob posibilrwydd er mwyn cadw’r clwb i fynd nes bod Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn gallu cwblhau’r cytundeb.”

Roedd y perchnogion wedi datgan yn gynharach eu bod yn ffafrio cytundeb i werthu asedau CPD Wrecsam i Brifysgol Glyndŵr, ac i werthu’r clwb ei hun i’r cefnogwyr.

Mae’r cytundebau wedi cymryd peth amser i’w cwblhau, felly galwodd un o’r perchnogion, Geoff Moss, ar i “rhywun” helpu’r clwb yn y cyfamser.

Roedden nhw’n cael  trafferth talu costau’r Clwb wrth ddisgwyl am brynwr, meddai.

Bygwth

Mae’r Clwb Cefnogwyr wedi bygwth dod a’r trafodaethau i ben nesnes bod y perchnogion yn “gwneud eu bwriad yn glir”.

Dywed y cefnogwyr mewn datganiad cyhoeddus ar eu gwefan eu bod yn “siomedig ac yn flin” gyda Geoff Moss ac Ian Roberts oherwydd y pwysau y maen nhw yn rhoi ar yr ymddiriedolaeth i gwblhau’r ddêl.

Maent hefyd yn honni fod y penderfyniad i droi cefn ar gais y Crusaders i aros yn y Super League yn golygu fod dyfodol y Clwb Pêl-droed unwaith eto yn y fantol.

Mae datganiad diweddaraf y cyfarwyddwyr a’r weithred ddoe gyda’r Crusaders yn creu llawer iawn o ansicrwydd diangen ar adeg pan oedd ein cynigion ar fin cael eu cadarnhau,” medden nhw.

“Yn dilyn y newyddion trist am y Crusaders, rydym ni’n awr yn galw ar berchnogion CPD Wrecsam i gadarnhau yn gyhoeddus eu bod nhw’n bwriadu cefnogi’r clwb a’r garfan nes bod y clwb wedi ei gwerthu.

Ychwanegodd y cefnogwyr nad oedd hynny yn golygu eu bod nhw “yn tynnu’r cynnig yn ôl”.