Mae’n debygol y bydd Caerdydd yn ceisio cwblhau cytundebau gyda dau chwaraewr newydd heddiw.

Mae ymosodwr rhyngwladol yr Alban, Kenny Miller, sy’n chwarae i Bursaspor yn Nhwrci, yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i gwblhau arbrofion meddygol ac i drafod telerau personol gyda’r  Adar Gleision.

Yn ôl adroddiadau o’r wasg yn Nhwrci mae Caerdydd wedi cynnig oddeutu €1 miliwn am y chwaraewr 31 oed fu’n chwarae i Celtic a Glasgow Rangers.

Roedd Miller yn stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr fel gwestai i wylio gêm gyfeillgar y clwb yn erbyn Celtic. Colli 0-1 oedd hanes Caerdydd, ond roedd Malky Mackay i’w weld yn fodlon gyda’r perfformiad.

“Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r ffordd yr oeddem ni’n edrych,” meddai wrth gynhadledd y wasg wedi’r gêm.

“Mae Celtic yn dîm da iawn, ac maen nhw o’n blaenau ni gyda’u paratoadau ar gyfer y tymor nesaf. Bydd rhaid i ni weithio ar rai pethau yn yr ymarferion, ond roedd yn ffordd dda i ni baratoi ar gyfer y tymor.”

Dywed am Miller, “Mae o’n chwaraewr gwych sy’n gwella wrth iddo aeddfedu.” Ac ychwanegodd am sefyllfa’r cytundeb, “Ar hyn o bryd, allwn ni ddim ond rheoli beth yr ydym ni ein hunain yn ei wneud. Mae Kenny wedi dod lawr yma i siarad gyda mi ac fe gawn ni weld sut eith pethau.”

Un arall oedd yno’n gwylio’r gêm neithiwr o’r eisteddle oedd Filip Kiss, sy’n chwaraewr ganol cae rhyngwladol dan-21 i Slofacia.

Mae Caerdydd yn debygol o selio cytundeb i ddod ag ef i dde Cymru arfenthyg am dymor cyfan. “Mae ganddo lawer iawn o botensial,” meddai Mackay.