HJK Helsinki 10  Bangor 0

Ar ôl hanner awr, doedd Bangor ddim wedi ildio gôl yn erbyn pencampwyr y Ffindir; awr yn ddiweddarach, roedden nhw wedi colli o 10-0.

Er hynny, doedd pencampwyr Cymru ddim yn rhy siomedig – roedd hi’n fraint cael chwarae yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop, medden nhw.

Ond, ar ôl perfformiad addawol yng Nghymru, roedd colli o gyfanswm o 13-0 yn “wers galed”, yn ôl  yr adroddiad ar wefan y clwb.

Dim ond 2-0 oedd hi ar ddiwedd yr hanner cynta’ ond fe gafodd Bangor eu chwalu yn yr ail.

Roedd hi’n 5-0 ar ôl awr cyn i dair gôl mewn tri munud orffen pethau’n llwyr.

Kastrati

Er bod Bangor wedi cael un neu ddau o gyfleoedd yn ystod y gêm, fe allai HJK fod wedi sgorio rhagor.

Fel yr oedd hi, roedd yna ddwy arall i’r tîm o Helsinki a fydd yn mynd yn eu blaenau i wynebu Dynamo Zagreb.

Yn addas iawn i Fangor neithiwr, enw’r sgoriwr ola’ oedd Kastrati.