Malky Mackay (gwefan Watford)
Mae Malky Mackay wedi datgan y byddai’n hoffi gallu ychwanegu chwe chwaraewr arall i’w garfan cyn i gyfnod trosglwyddiadau’r haf ddod i ben.

Mae’n bosib mai’r Ffrancwr, Rudy Gestede, fydd ei seithfed cytundeb hyd yn hyn i’r Adar Gleision.

Mae Gestede, sy’n 22 oed a gynt o Metz, wedi bod ar gyfnod rhagbrofol gyda Chaerdydd ac fe sgoriodd yn ystod eu buddugoliaeth gyfeillgar yn erbyn Charlton yr wythnos diwethaf.

Mae CPD Dinas Caerdydd eisoes wedi arwyddo chwe chwaraewr newydd hyd yn hyn, ond mae Mackay yn awyddus i ychwanegu chwech arall i lenwi’r bylchau yn y garfan wedi iddynt golli deuddeg o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Fe wnaeth Gethin Jenkins, prif-weithredwr Caerdydd, addo y byddai yna gronfa ariannol ar gael i’r rheolwr newydd i fuddsoddi ar gyfer y tymor newydd, ond o’r cytundebau a wnaed hyd yn hyn, dim ond ar Joe Mason mae’r clwb wedi gorfod gwario.

Cafwyd Robert Earnshaw, Andrew Taylor, Craig Conway, Don Cowie ac Aron Gunnarsson oll ar gytundebau am ddim.