Brendan Rodgers
Mae Newcastle United wedi derbyn cynnig o £2 filiwn gan Abertawe ar gyfer yr asgellwr Wayne Routledge.

Gwrthodwyd cynnig o £1.5 miliwn amdano’r wythnos diwethaf, ond mae adroddiadau fod Brendan Rodgers wedi cynyddu’r cynnig heddiw.

Mae Rodgers yn gobeithio y gall gwblhau ei bedwerydd cytundeb o’r haf cyn i’r tymor newydd gychwyn ganol mis Awst.

“Rydym ni’n meddwl y byddai (Routledge) yn gweddu gyda’n harddull ni o chwarae, ac mi fyddai’n cyffroi’r cefnogwyr dwi’n meddwl,” meddai wrth y BBC. “Fe arhoswn ni i weld os allwn ni gytuno ar gontract iddo.”

Treuliodd Routledge ail hanner y tymor diwethaf arfenthyg yn y bencampwriaeth gyda QPR, lle bu’n allweddol yn eu hymdrechion wrth ennill dyrchafiad i’r uwch-gynghrair.

Ond fe wrthododd gytundeb parhaol gyda hwy wedi methu cytuno ar delerau personol, ac felly mae’n ymweld yn debygol y bydd yr Elyrch yn llwyddo i’w gipio.