Joe Allen
Mae hyfforddwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi cadarnhau fod Joe Allen wedi arwyddo cytundeb i aros gyda’r Elyrch.

Roedd y clwb, sydd ar fin cychwyn eu tymor cyntaf yn yr uwch-gynghrair, yn awyddus iawn i sicrhau fod Allen yn aros. Blwyddyn oedd ganddo ar ôl ar ei gytundeb gwreiddiol.

Ni wyddwn ar hyn o bryd beth yw hyd y cytundeb newydd, ond fe ddywedodd Rodgers wrth BBC Five Live: “Mae Joe yn wych. Mae o’n chwaraewr y byddai llawer o glybiau’n ei ystyried yn rhy fach neu’n rhy wan i chwarae ar y lefel uchaf.”

“Ond roeddwn i’n gwybod ei fod yn dalentog. I mi, mae o’r un math o chwaraewr a Xavi neu Iniesta (o Barcelona), gyda’r arddull yna o chwarae sydd ganddo. Mae o’n wych ar y bêl, yn ddeallus â’r  meddiant ac yn symud yn dda.”

Creda Rodgers ei fod y math o reolwr all gael y gorau o’r chwaraewyr ifanc sydd gan Abertawe.

“Mae’r hogiau ifanc yma yn hollbwysig i’n gobeithion o aros yn y gynghrair, ac i ddyfodol y clwb. Dwi wrth fy modd eu bod nhw’n fodlon aros yma.”