Ffordd Farrar
Bangor 0 HJK Helsinki 3

Fe ddywedodd rheolwr clwb pêl-droed Bangor ei fod yn falch o berfformiad ei dîm wrth golli 0-3 i bencampwyr y Ffindir, HJK, yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Yn ôl Nev Powell, roedd y tîm o’r Gogledd yn anlwcus wrth golli o gymaint ar ôl cael cyfran dda o’r chwarae.

Un o nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn y tîm o Helsinki oedd achos y drwg – fe gafodd Berat Sadiq ddwy gôl, un ar ôl llai na chwarter awr a’r llall ar ôl deng munud yn yr ail hanner.

Fe ddaeth y gôl olaf gan  gyn chwaraewr Leeds, Sebastian Sorsa, tua munud o’r diwedd.

Roedd hi’n gêm greulon, meddai Nev Powell wedyn. Hon oedd gêm gynta’r ddinas yn y Bencampwriaeth ac efallai mai hon fydd yr ornest Ewropeaidd ola’ yn Ffordd Farrar.