Clwb Dinas Bangor
Mae CPD Dinas Bangor yn chwarae gêm fawr arall yn eu hanes yng nghystadleuaeth fwyaf Ewrop.

Bydd Bangor yn herio pencampwyr Y Ffindir, HJK Helsinki, yn ail rownd ragarweiniol Cynghrair y Pencampwyr yng nghae Belle Vue, Rhyl – roedd y gic gyntaf am 6.30y.h heno.

Maent eisoes wedi creu rywfaint o enw i’w hunain ar draws y blynyddoedd wrth herio rhai o glybiau mawr Ewrop yn y bencampwriaeth ryngwladol enwog.

Yn 1962, er enghraifft, bu tair gem arbennig i’w chofio yn erbyn AC Napoli yn rownd ragarweiniol gyntaf yr hen gwpan Ewrop. Curodd Bangor hwy 2-0 yn y cymal cyntaf yng nghae Farrar, ond yna colli 1-3 oedd yr hanes oddi cartref. Bu rhaid trefnu gem arall i benderfynu’r ornest, yn Highbury, ac fe gollwyd honno hefyd yn y pen draw o 1-2.

Ond, petai’r gemau hynny wedi cael eu chwarae dan amodau modern gyda’r rheol goliau oddi cartref yn cael effaith, mi fyddai Bangor wedi curo un o glybiau mwyaf y byd ar y pryd.

Er bod y clwb, y cefnogwyr a’r chwaraewyr, yn ymwybodol o bwysigrwydd ceisio efelychu rhywfaint ar yr hanes a’r traddodiad yma, mae Huw Pritchard (Llefarydd CPD Bangor) yn haeru fod y genhedlaeth bresennol yn mynd ati i ychwanegu pennod newydd eu hunain yn hanes y clwb.

Dywed yn ein cyfweliad: “Rydym ni’n ymwybodol o’r holl hanes, wrth gwrs, ac mae’r clwb yn adnabyddus am ddyrchafu eu hunain i gwrdd â her timau llawer mwy na nhw, ond eto beth sy’n rhaid cydnabod fwyaf yw bod y chwaraewyr sydd gennym ni yma ar hyn o bryd yn creu eu hanes eu hunain.

“Maen nhw wedi rhagori yn y tymhorau diwethaf, gan ennill y gynghrair a’r gwpan ar fwy nag un achlysur, a rhoi cynnig gwych arni yn y gemau yn Ewrop.”

Beth bynnag fydd canlyniad y gêm heno, mae’n amlwg fod gemau Ewropeaidd o’r fath yn cael eu trysori gan bawb sy’n ymwneud a’r clwb.

“Wel, yn amlwg mae’n fraint cael chwifio fflag Dinas Bangor yn Ewrop, ond hefyd wrth gwrs rydym ni’n cynrychioli Pêl-droed yng Nghymru,” meddai Huw Pritchard.

Ond mae hefyd yn gwneud lles i’r clwb fel cymdeithas. “Rydym ni’n glwb gwbl unfrydol. Mae’r cefnogwyr wastad tu ôl i ni, ac mae achlysuron fel yma’n helpu i ddod a phawb at ei gilydd,” meddai Gwynfor Jones, Cadeirydd y clwb.

Ychwanegodd: “Mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm. Mae’r ‘build-up’ wedi cychwyn ers tair wythnos, a fedra i’m aros tan y gic gyntaf.”

Mae pawb yn cydnabod fod hon yn dipyn caletach gem na chafwyd y flwyddyn ddiwethaf yn yr un gystadleuaeth. Er bod un o’u sêr, Jari Litmanen (gynt o Barcelona a Lerpwl) yn absennol gydag anaf i’w ben glin, bydd Helsinki’n her enfawr.

Maen HJK Helsinki wedi bod yn bencampwyr eu cynghrair 23 o weithiau, a chanddynt chwaraewyr rhyngwladol yn eu rhengoedd, ond roedd Gwynfor Jones yn ddi-flewyn-ar-dafod wrth gyhoeddi:

“Maen nhw’n bencampwyr y Ffindir, ond rydym ni’n bencampwyr Cymru. Yn lle poeni am sut i ddelio gyda nhw, efallai dyle nhw boeni am sut maen nhw’n mynd i ddelio gyda ni!”

Pwy a ŵyr, os fydd pawb mor hyderus â hynny, efallai y bydd hon yn berfformiad i’w hychwanegu at y llyfr lloffion.