Ffion, merch Meirion Appleton yn dal tlws Cwpan Y Byd (Llun Y Lolfa o'r hunangofiant)

Dyma’r olaf yn y gyfres o ddyfyniadau o hunangofiant Meirion Appleton – ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ sy’n cael eu cyhoeddi ar Golwg360.

Yn y rhan yma mae Appy’n trafod llwyddiant ei blant, Ffion a Gari, ym myd busnes.

Nid ar feysydd pêl-droed yn unig y trodd y rhod. Fe drodd hefyd o ran fy mywyd teuluol. Er i fy musnes fynd i’r wal, mae’n llwyddiannus yn sgil fy mhlant heddiw. Maen nhw wedi llwyddo lle methais i. Mae’r ferch, Ffion, ar frig ei gyrfa fel cynllunydd dillad chwaraeon.

Fe raddiodd hi mewn cynllunio ym Mhrifysgol Kingston yn Llundain. Roedd Gret a Gari a finne’n bresennol yn ei seremoni raddio yn yr Albert Hall. Fe aeth hi ymlaen i weithio fel cynllunydd gyda’r cwmnïau dillad chwaraeon mwyaf yn y byd, gan gynnwys Puma, Adidas a Nike, ac mae hi wedi byw yn yr Almaen am dair blynedd ac yn yr Iseldiroedd am bum mlynedd. Fe fu hi’n gyfrifol am gynllunio cit Brasil, Arsenal a Manchester United. Mae hi wedi cynllunio cit y Teirw Duon a’r Llewod Prydeinig. Fe fu hi hefyd yn gyfrifol am gynllunio cit rhedeg gwibiwr cyflyma’r byd, Usain Bolt.

Yna fe aeth hi ati i helpu i greu cwmni newydd, Field to Podium. Mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun gyda’r prif gwmnïau’n ymgynghori â hi’n rheolaidd. Rwy’n falch iawn ohoni ac yn fwy balch fyth mai gyda Gret a finne yn y Ganolfan Chwaraeon yn Aberystwyth y dechreuodd hi’r cyfan.

Cysylltiadau defnyddiol

Ar ôl graddio fe fu hi’n ddi-waith am gyfnod. Fe deithiodd drwy Ewrop ac ymlaen i America yn

chwilio am swydd. Am ychydig fe fu hi’n cynnal ei hun drwy weithio mewn canolfan alwadau. Ond yna dyma swydd yn dod gyda Puma. Roedd gen i ffrind yn gweithio i Puma sef y cyn-chwaraewr Martin Buchan, cyn-amddiffynnwr canol Manchester United a enillodd 34 cap i’r Alban. Fe arferai ddod i lawr i Aber ar ran Puma ac fe fydde fe’n aros gyda ni. Fe ffoniais i Martin ac, yn wir, roedd e wedi sylwi ar enw Ffion ac yn tybio ei bod hi’n perthyn i mi. Wn i ddim a gafodd hynny unrhyw ddylanwad arno ond fe gafodd Ffion y swydd. Ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth.

Mae gan Ffion a’i phartner Richard ddau o blant, Siôn a Dylan, ac er nad yw Richard yn Gymro Cymraeg maen nhw’n magu’r plant drwy’r Gymraeg yn Llundain. Fe wnaeth Ffion gyfarfod â Richard pan oedd yn fyfyriwr yn Aber. Mae ganddo radd PhD ac mae e’n bennaeth adran yn un o golegau Llundain.

Ailgodi o fethiant

Yn y cyfamser mae cwmni Gari, sef Ffigar, yn llwyddo. Fe sefydlwyd y cwmni dillad ac offer chwaraeon yn 1994 ac mae e’n canolbwyntio ar frodwaith. Ers ei ddyddiau ysgol mae e wedi bod yn y busnes, gyda fi i gychwyn ac yna gyda’i gwmni ei hun. Pan adawodd e’r ysgol fe aeth i deithio o gwmpas y byd am chwe mis. Erbyn iddo ddychwelyd roedd fy musnes i yn y Ganolfan Chwaraeon wedi mynd i’r wal. Ond cyn pen dim roedd e wedi ailgydio yn yr awenau gan gychwyn busnes Ffigar, sef fy nghreadigaeth i.

Erbyn hyn mae busnes Ffigar â’i ganolfan yn hen siop lyfrau Galloway a Morgan yn Heol y Wig

yn Aber. Rhentu’r adeilad mae e ar hyn o bryd ond mae ganddo gynlluniau i’w brynu. Yn ddiweddar daeth i gytundeb â chwmni Kukri i werthu deunydd chwaraeon. Ffurfiwyd y cwmni hwnnw gan Gymro, Phil Morris, yn 1999 ac mae Kukri bellach yn masnachu’n fyd-eang. Ar ben hynny mae gan Gari ddwy siop groser, y naill yn Nhrefechan a’r llall ar y Waun. Maen nhw’n cael eu rhedeg fel siopau pentref gan gyflenwi popeth bron.

Fel yn hanes Ffion, mae Gret a minne’n ymhyfrydu hefyd yn llwyddiant Gari ac Amie. O ran Ffigar mae e wedi ennill cytundebau cyflenwi offer a dillad chwaraeon i nifer o golegau a phrifysgolion  ledled Prydain, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth. Rhwng y tair siop mae e’n cyflogi tua dwsin o bobl. Mae Amie, ei wraig, yn codi am bump o’r gloch bob bore i baratoi ar gyfer rhedeg y ddwy siop nwyddau, heb sôn am ofalu am ddau o blant. Merch o Ganolbarth Lloegr yw hi ond mae hi a Gari yn magu’r plant, Tomos ac Elin, yn Gymry Cymraeg.

Rwy’n hynod falch o lwyddiant y plant. Drwyddyn nhw rwy’n teimlo fy mod inne wedi cael ail gyfle i wneud iawn am gamgymeriadau’r gorffennol.

Fe fydd yr olaf o’r gyfres o ddyfyniadau yn cael ei gyhoeddi fory. Mae ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ac mae lansiad swyddogol y gyfrol yn y Marine, Aberystwyth heno, 13 Gorffennaf am 7:30.