Y Cae Ras
Mae Prifysgol Glyndŵr, sydd wedi ei lleoli yn Wrecsam, yn trafod y posibilrwydd o fuddsoddi yn Stadiwm y Cae Ras.

Gan mai elusen yw’r clwb yn swyddogol, mi fyddai’r brifysgol yn cael ei gwahardd rhag cael unrhyw ran mewn rheoli’r tîm a llywodraethu’r clwb – boed hynny’n CPD Wrecsam neu dîm rygbi cynghrair y Crusaders.

Mae ansicrwydd ar hyn o bryd am wir fwriad y sefydliad addysgol. Mae’n aneglur os ydyn nhw’n bwriadu prynu’r Cae Ras yn gyfan gwbl, neu gyfrannu tuag ato gyda phartneriaid eraill.

Ymweld â’r brifysgol

Bu perchnogion y Clwb, Geoff Moss ac Ian Roberts, yn ymweld â’r brifysgol ddydd Gwener.

Rhyddhawyd datganiad gan y brifysgol yn dweud: “Mae Prifysgol Glyndŵr yn rhan o drafodaethau ar hyn o bryd yn ymwneud â dyfodol y Cae Ras a’r cyfleuster ymarfer yn Gresford.

“Mae’r brifysgol yn awyddus i sicrhau fod y stadiwm a’r cae ymarfer yn parhau i fod yn ased cymunedol pwysig i ddarparu ar gyfer holl anghenion chwaraeon pobl Wrecsam a Gogledd Cymru, boed hynny’n ddefnydd proffesiynol, addysgiadol neu gyhoeddus.”

Doedd dim sylw pellach ganddyn nhw ar y mater.

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf fod Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr wedi gwneud cynnig i brynu’r clwb gyda chymorth trydydd parti.

Mae’n aneglur sut fyddai cynnig yr Ymddiriedolaeth yn ffitio o fewn cynlluniau’r ymddiriedolaeth, a pha effaith gaiff hyn ar eu cynnig hwy os fydd y brifysgol yn gwneud cais unigol i brynu asedau’r clwb.