Mae sibrydion bod amddiffynnwr Dinas Abertawe, Neil Taylor, wedi cysylltu gyda phanel cymrodeddu’r uwch-gynghrair er mwyn ceisio datrys y dadlau ynglŷn â’i drosglwyddiad arfaethedig i Newcastle.

Mae’n ymddangos bod y ddau glwb wedi methu a dod i gytundeb ar amodau ariannol, ac felly mae’r chwaraewr 22 oed, yn gobeithio gall y gynghrair gamu mewn i ddarganfod cyfaddawd sy’n gwneud lles i’r ddwy ochr.

Mae ffynonellau’n honni fod Newcastle wedi cynnig £1 miliwn amdano, a’u bod o’r farn fod hynny’n rhyddhau Taylor o’i gytundeb ac yn eu caniatáu i’w arwyddo.

Mae Abertawe yn hawlio, ar y llaw arall, fod y cymal hwnnw yn ei gytundeb yn caniatáu dim ond trafod gyda chlybiau eraill, a dim mwy. 

I gymhlethu’r sefyllfa, mae Abertawe wedi gwneud cynnig i’r chwaraewr ymestyn ei arhosiad gyda nhw.

Ac i ddrysu pethau ymhellach, mae Abertawe hefyd wedi gwneud cynnig o £1.5 miliwn am Wayne Routledge, asgellwr Newcastle. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod Leicester a Chaerdydd eisoes wedi dangos diddordeb ynddo hefyd.

Sibrydion eraill

Mae honiadau eraill yn y wasg yn datgan fod Abertawe yn dangos cryn ddiddordeb yn Eidur Gudjohnsen, gynt o Chelsea a Barcelona, wrth iddynt chwilio am ymosodwyr gyda phrofiad cyn dyfodiad y tymor newydd.

Ond mae cystadleuaeth am ei lofnod, gyda West Ham yn ffefrynnau i arwyddo’r chwaraewr sy’n rhydd o unrhyw gytundebau ar hyn o bryd.

Mae storïau eraill fod Brendan Rodgers yn barod i roi ail gyfle i gyn-ymosodwr Abertawe, Jason Scotland.

Sgoriodd 45 o weithiau mewn 90 ymddangosiad tra gyda’r Elyrch o 2007-09, gan wneud enw da i’w hyn ymysg y dyrfa leol.

Penderfynodd ddilyn Roberto Martinez i Wigan y tymor diwethaf, ac fe gafodd ymgyrch eithaf siomedig ar y cyfan, ond mae posib bydd siawns arall iddo ddisgleirio ar y lefel uchaf unwaith eto.