Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi gwneud cynnig o tua £1.5 miliwn am chwaraewr canol cae Newcastle, Wayne Routledge.

“Rydym ni wedi dangos diddordeb ynddo, ac yn trafod gyda Newcastle”, medd un o swyddogion y clwb.

Treuliodd Routlegde ail hanner tymor diwethaf ar fenthyg gyda Queens Park Rangers o Lundain, ond mae wedi methu cytuno ar delerau personol er mwyn ymestyn ei arhosiad gyda hwy.

Fe all Abertawe fod yn cystadlu am ei lofnod gyda Nottingham Forest ynghyd â Chaerdydd, lle bu Routledge arfenthyg am gyfnod o fis yn nhymor 2008-09.

Fe wnaeth gyfraniad arwyddocaol i ymgyrch lwyddiannus QPR yn y bencampwriaeth y tymor diwethaf; gan sgorio 5 gwaith mewn 20 ymddangosiad er mwyn eu helpu i ennill dyrchafiad i’r uwch-gynghrair.

Yn y cyfamser, mae dyddiad gêm gyntaf Abertawe yn yr uwch-gynghrair oddi cartref yn erbyn Manchester City wedi’i symud o Ddydd Sadwrn, Awst 13 i Ddydd Llun, Awst 15.

Manchester United fydd y gwesteion ar gyfer y gêm gartref gyntaf i gael ei darlledu’n fyw o Stadiwm Liberty ar Dachwedd 19.