Un o dimau llwyddiannus Aberystwyth gyda Meirion Appleton wrth y llyw
Dyma’r ail yn y gyfres o ddyfyniadau o hunangofiant Meirion Appleton – ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ sy’n cael eu cyhoeddi ar Golwg360.

Yma mae Appy’s sôn am sut y chwaraeodd y News of the World ran yn rhai o’i lwyddiannau a methiannau ym myd busnes.

Fe brynon ni gyflenwad o sgidiau ar delerau rhad gan Adidas. Yn y ganolfan fusnes yng nghanol Henffordd roedd ganddon ni staff o wyth yn ateb galwadau ar wyth ffôn. Am bump o’r gloch y bore dydd Llun wedi i’r hysbyseb gyntaf ymddangos yn y News of the World dyma neges yn cyrraedd y gwesty lle roeddwn i’n aros. Y neges oedd i mi ddod i’r ganolfan ar unwaith. Roedd y llinellau ffôn ar dân. Roedd yr archebion yn cyrraedd yn ddi-baid. Fe werthwyd y cyflenwad cyntaf yn llwyr o fewn dim o dro ac fe wnaethon ni dros £20,000 o elw o fewn ychydig ddyddiau.

Roeddwn i’n hyderus nawr ein bod wedi hitio gwythïen aur. Dyma fynd ati i ail hysbysebu a phrynu cyflenwad arall o ddeunydd chwaraeon. Y tro hwn dyma brynu cyflenwad o gotiau Clwb Pêl-droed Rangers. Roedden nhw’n gwerthu yn y siopau am £50. Roedd gan Adidas gyflenwad o tuag wyth mil ac fe lwyddon ni i’w prynu am lai na £10 yr un. Fe wnaethon ni eu hysbysebu am £16.99 yr un, gan dalu £12,000 unwaith eto am hysbyseb.

Ar y nos Sul a’r bore Llun dyma ddisgwyl i’r teleffonau ganu fel cynt. Erbyn un o’r gloch y prynhawn Llun dim ond un alwad a dderbyniwyd. Roedd colledion enfawr yn ein hwynebu. Er mwyn ceisio arbed hynny fe deithion ni i Glasgow i geisio gwerthu’r cotiau i siopau chwaraeon y ddinas. Ar ôl cyrraedd fe welon ni bod y siopau’n eu gwerthu’n rhatach na ni.

Roedden ni nawr mewn twll â miloedd o gotiau ar ein dwylo. Ro’n i’n teimlo fel Del Boy yn Only Fools and Horses. Yn wir, ar ein hymweliad â Glasgow, fe es i weld y tîm yn chwarae gartref. Y tu allan roedd towts yn ceisio gwerthu cotiau i ni! Dyna ble’r o’n i’n eistedd yn gwylio’r gêm a phawb yn y stadiwm, bron, yn gwisgo’r cotiau ro’n i’n ceisio’u gwerthu! Roedd cist y car y tu allan i Ibrox yn orlawn o gotiau Rangers a’r stordy yn Henffordd wedi ei stwffio o’r llawr i’r to gyda chotiau Rangers, a finne’n ceisio’u gwerthu nhw ble bynnag yr awn.

Roedd hon, wrth gwrs, yn fenter gwbl ar wahân i fusnes gwreiddiol y Ganolfan Chwaraeon. Ond roedd y ganolfan yn gwbl allweddol i’r fenter hon hefyd. O’r ddau ohonon ni yn yr ail fusnes, dim ond fi fedrai brynu nwyddau a thrwy’r Ganolfan Chwaraeon wnes i eu prynu. Roeddwn i wedi buddsoddi’n ddrud drwy dalu am logi canolfan a warws yn Henffordd, talu

BT i osod rhwydwaith ffôn a thalu’r rhent amdano, talu staff o wyth i ateb y teleffonau, talu staff i bacio’r nwyddau heb sôn am dalu am y nwyddau a’r hysbysebion.

Mae rhagor o ddyfyniadau o’r gyfrol i ddod dros y dyddiau nesaf. Mae ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ac mae lansiad swyddogol y gyfrol yn y Marine, Aberystwyth ar nos Fercher 13 Gorffennaf.