Appy yn codi tlws cwpan Canolradd Cymru ym 1986 (llun gan Y Lolfa o'r gyfrol 'Appy')
Mae Meirion Appleton yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar byd pêl-droed a busnes Cymru. Mae ei hunangofiant newydd ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa ac mae Golwg360 yn cydweithio â’r wasg i gyfresu dyfyniadau o’r gyfrol newydd.

Dros y dyddiau nesaf  bydd modd i chi ddarllen rhai o ddarnau mwyaf diddorol yr hunangofiant. Yn y gyntaf o’r gyfres mae Appy’n sôn am ei siop chwaraeon enfawr yn Aberystwyth ac hefyd am amlenni brown amheus y bu’n eu cyflwyno i rai o chwaraewyr rygbi enwocaf Cymru….

Siop Chwaraeon Fwya Cymru yn ei hanterth

Adeg gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd fe fyddwn i’n llogi stafell gyfan mewn gwesty ar gyfer fy nghwsmeriaid. Fe fyddai pawb yn cael pryd o fwyd ond yn talu am y diodydd. Yn wir, ar un adeg roedd y tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn yn y Centre Hotel yn bwysicach na’r tocynnau ar gyfer y gêm. Fe fyddwn i’n arlwyo ar gyfer rhwng cant a chant a hanner o bobl. Roedd y fath ddarpariaeth gorfforaethol yn newydd bryd hynny. Roedd hyn oll yn costio’n ddrud  ond yn talu ymhen amser. Mater o fwrw fy mara ar wyneb y dyfroedd. Go brin y gwnes i sylweddoli bod y teid ar y ffordd allan.

Rwy’n cofio cyfaill i mi, Huw Powell – gŵr amlwg ym myd rygbi – yn fy wfftio pan ddywedais wrtho y byddai tîm Cymru yn dod i un o’r derbyniadau. Doedd e ddim yn credu bod gen i unrhyw obaith. Ond dod wnaethon nhw, bob un ond J P R Williams. Fe wnes i ddod yn ffrindiau mawr â llawer o’r bechgyn hyn – Phil Bennett, Allan Martin a Clive Rowlands yn eu plith.

Er mai fi sy’n dweud, roedd gen i gryn ddylanwad bryd hynny. Ro’n i’n un o gwsmeriaid gorau cwmni Adidas ac fe fedra i gofio derbyn galwad ffôn oddi wrth un o’r prif ddynion ar fore dydd Gwener yn gofyn a wnawn i ffafr ag e. Roedd e am i mi drosglwyddo amlen yr un i ddau o chwaraewyr Cymru cyn gêm ryngwladol. Fe fydden nhw’n cyfarfod â fi ar y grisiau y tu allan i’r gwesty. Fe wnes i gytuno ac fe gyflwynais amlen yr un i Gareth Edwards a Barry John. Beth oedd yn yr amlenni? Fel finne, fe fedrwch ddychmygu. Dwi ddim yn beio’r naill na’r llall. Roedden nhw’n haeddu pob cildwrn posibl. Roedd Adidas wedyn yn gofalu y byddwn inne’n cael ffafr fach am fy nghymwynas ac am gadw’n dawel.

Fe fyddai Barry, yn arbennig, yn galw yn y siop bob tro y byddai yn Aber. A Grav wedyn. Fe ddaeth y ganolfan yn llawer mwy na siop chwaraeon. Fe ddaeth yn fan cyfarfod, yn enwedig y bar ar y llofft. Fe fyddai yna dri yn arbennig a fyddai’n galw gyda fi bob tro y bydden nhw yn y dre. Un oedd Carwyn James, a fyddai angen lle tawel yn ystod y dydd i baratoi darlith i’w thraddodi mewn cinio neu’i gilydd, hwyrach, a rhyw jin a thonic bach wrth baratoi. Roedd y bar ynghau yn ystod y dydd, felly fe gâi e lonydd. Un arall oedd Eic Davies. Yn wir, fe fydde fe’n dod gyda fi ar ambell daith pan fyddwn i’n mynd bant i brynu offer neu ddillad chwaraeon. A’r trydydd oedd Eirwyn Pontshân, a fyddai’n galw ar ambell ddiwrnod mart. Os oedd am osgoi rhywun fe fydde fe’n rhedeg i’r siop a sibrwd, ‘Meirion, cwata fi.’ Ac yn y cwrt sboncen y byddai’n cuddio. Fe fydde fe wedyn yn mynd allan yn slei bach drwy’r drws cefn. Dyna i chi driawd!

Bydd dyfyniadau eraill o’r gyfrol yn cael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf. Mae ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ac mae lansiad swyddogol y gyfrol yn y Marine, Aberystwyth ar nos Fercher 13 Gorffennaf.