Bydd Caerdydd yn dechrau’r tymor newydd yn y Bencampwriaeth gyda gêm oddi cartref yn erbyn West Ham. 

 Yna fe fydd yr Adar Gleision yn teithio i Upton Park ar Awst 6 cyn croesawu Dinas Bryste i Stadiwm Dinas Caerdydd ar y penwythnos canlynol. Tri diwrnod yn ddiweddarach bydd Caerdydd yn herio Brighton yn y brifddinas. 

 Rhai o’r dyddiadau pwysig eraill yn y calendr i Gaerdydd fydd taith i Vicarage Road i herio Watford ar Ŵyl San Steffan. Mae Caerdydd yn ceisio denu rheolwr Watford, Malcolm ‘Malky’ MacKay, ar hyn o bryd.

 Bydd Caerdydd yn chwarae yn erbyn Leeds Utd ar Ebrill 21 yn eu gêm gartref olaf o’r tymor, cyn gorffen yn erbyn Crystal Palace yn Selhurst Park wythnos yn ddiweddarach.