Fe fydd Abertawe yn wynebu Wigan Athletic yn eu gêm gynta’ gartre’ yn Stadiwm y Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr fis Awst.

Mae Wigan yn cael eu rheoli gan Roberto Martinez, cyn-chwaraewr Abertawe oedd hefyd yn reolwr ar y clwb o dde Cymru hyd nes iddo adael am y Latics ddwy flynedd yn ôl.

Fe fydd Abertawe yn wynebu Manchester City yn eu gêm gyntaf o’r tymor, oddi cartref.

A bydd Lerpwl yn ymweld ag Abertawe ar gyfer gêm ola’r tymor ym Mai 2012.

Abertawe yw’r tîm cynta’ o Gymru i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, wedi iddyn nhw guro Reading yn ffeinal gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth.

Rhestr gyflawn o’r gêmau:

13Awst – Manchester City (Oddi cartref)
20 Awst – Wigan Athletic (Cartref)
27 Awst – Sunderland (Cartref)

10 Medi – Arsenal (Oddi cartref)
17 Medi – West Bromwich Albion (Cartref)
24 Medi – Chelsea (Oddi cartref)

1 Hydref – Stoke City (Cartref)
15 Hydref – Norwich City (Oddi cartref)
22 Hydref – Wolves (Oddi cartref)
29 Hydref – Bolton Wanderers Cartref)

5 Tachwedd – Lerpwl (Oddi cartref)
19 Tachwedd – Manchester United (Cartref)
26 Tachwedd – Aston Villa (Cartref)

3 Rhagfyr – Blackburn Rovers  (Oddi cartref)
10 Rhagfyr – Fulham (Cartref)
17 Rhagfyr – Newcastle United (Oddi cartref)
21 Rhagfyr – Everton (Oddi cartref)
26 Rhagfyr – Queens Park Rangers (Cartref)
31 Rhagfyr – Tottenham Hotspur (Cartref)

2 Ionawr  – Aston Villa (Oddi cartref)
14 Ionawr – Arsenal (Cartref)
21 Ionawr – Sunderland (Oddi cartref)
31 Ionawr – Chelsea (Cartref)

4 Chwefror  – West Bromwich Albion (Oddi cartref)
11 Chwefror  – Norwich City (Cartref)
25 Chwefror  – Stoke City (Oddi cartref)

3 Mawrth  – Wigan Athletic (Oddi cartref)
10 Mawrth – Manchester City (Cartref)
17 Mawrth – Fulham (Oddi cartref)
24 Mawrth – Everton (Cartref)
31 Mawrth – Tottenham Hotspur (Oddi cartref)

7 Ebrill  – Newcastle United (Cartref)
9 Ebrill – Queens Park Rangers (Oddi cartref)
14 Ebrill – Blackburn  (Cartref)
21 Ebrill – Bolton Wanderers (Oddi cartref)
28 Ebrill – Wolves (Cartref)

5 Mai – Manchester United  (Oddi cartref)
13 Mai – Lerpwl (Cartref)