Earnshaw'n chwarae i Gymru
Mae’r dyfalu ynglŷn â dyfodol ymosodwr Cymru, Robert Earnshaw yn parhau wrth i nifer o adroddiadau ei gysylltu gyda Crystal Palace.

Bydd  cytundeb yr ymosodwr bach o Gaerdydd gyda Nottingham Forest dyn dod i ben ar ddiwedd y mis, gan olygu ei fod yn rhydd i symud i unrhyw glwb arall.

Mae Earnshaw wedi awgrymu ar wefan Twitter ei fod yn ystyried ei ddyfodol, gan addo mai ei ddilynwyr ar y wefan honno fydd y cyntaf i wybod os oes unrhyw ddatblygiadau.

Er hynny, roedd adroddiadau yn nifer o bapurau newydd Llundain ddoe yn awgrymu ei fod mewn trafodaethau gyda Crystal Palace wrth iddyn nhw geisio cryfhau eu hymosod ar gyfer y tymor newydd.

Freedman yn dawedog

Yn ôl y London Evening Standard fe fu cyfarfod rhwng Earnshaw a rheolwr Palace, Dougie Freedman, ddoe.

Erbyn heddiw mae Freedman yn gwadu bod Earnshaw ar fin arwyddo i’w dîm.

“Mae ‘na nifer o enwau yn yr het, ond dyw e ddim yn un ohonyn nhw” meddai Freedman wrth gael ei holi gan News Shopper.

Forrest yn cynnig cytundeb

Y gred gyffredinol oedd na fyddai Earnshaw yn rhan o gynlluniau rheolwr newydd Forest, Steve McClaren.

Ond, mewn tro arall i’r stori mae Prif Weithredwr Forest, Mark Arthur, wedi dweud fod y Cymro a’r chwaraewr canol cae Guy Moussi wedi cael cynnig cytundebau newydd.

“R’yn ni’n reit agos ati gyda Guy Moussi … ond ar hyn o mae Rob Earnshaw a ninnau ymhell ar wahân, o ystyried ei uchelgais o ran cyflog a’r hyn yr ’yn ni’n barod i’w dalu” meddai Arthur ar BBC Radio Nottingham.