Chris Westwood yn lliwiau Hartlepool
Mae Wrecsam wedi arwyddo’r amddiffynnwr canol Chris Westwood ar gytundeb dwy flynedd o hyd.

Mae Westwood, sy’n 34 mlwydd oed, wedi bod yn chwarae i Wycombe Wonderers, ac roedd yn rhan o’r tîm a enillodd ddyrchafiad i Adran Un cynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Cafodd Westwood gynnig estyniad o flwyddyn i’w gytundeb, ond fe’i gwrthododd gan ddewis symud i Wrecsam yn lle hynny.

Saunders wrth ei fodd

Roedd rheolwr y Dreigiau, Dean Saunders, wrth ei fodd gyda’i chwaraewr newydd ac yn credu fod ei brofiad o ennill sawl dyrchafiad yn allweddol.

“Mae Chris wedi ennill dyrchafiad ar bump achlysur ac fe gafodd gynnig cytundeb newydd  â Wycombe yn yr Adran Gyntaf, ond mae wedi gwrthod a phenderfynu arwyddo i ni, sy’n newyddion gwych.”

“Fe wnaethom ni drio ei arwyddo llynedd,” datgelodd Saunders.

“Ond roedd Wycombe am gadw gafael arno ac yn y pendraw fe chwaraeodd rhyw 30 o gemau iddyn nhw gan ennill dyrchafiad”

Yn ogystal â Wycombe, mae Westwood wedi chwarae i Wolves, Reading, Hartlepool, Walsall, Peterborough a Cheltenham yn ystod ei yrfa.

Mwy o wynebau newydd

Mae’n debyg bod Saunders hefyd mewn trafodaeth ag ymosodwr newydd, er nad yw hwnnw wedi’i enwi eto.

Er hynny, yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol, nid yw Saunders yn bwriadu denu llu o wynebau newydd i’r Cae Ras dros yr haf.

“Dwi’n gobeithio arwyddo tri neu bedwar o chwaraewyr yn hytrach na’r un ar ddeg neu ddeuddeg rydan ni wedi gorfod arwyddo yn y gorffennol” meddai Saunders.

Fe gyhoeddwyd ddydd Gwener bod yr ymosodwr Jake Speight wedi ymuno o Bradford City, tra bod Curtis Obeng a Johnny Hunt wedi penderfynu arwyddo cytundebau newydd gyda Wrecsam.