David Vaughan
Mae David Vaughan wedi cadarnhau ei fod yn gadael Blackpool er mwyn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Bydd y Cymro’n gadael y clwb am ddim ar ôl i’w gytundeb ddod i ben wedi tair blynedd yn Bloomfield Road.
Ymunodd David Vaughan â Blackpool o Real Sociedad am £200,000 ym mis Awst 2008 ac fe ymddangosodd 116 gwaith dros y clwb.
Gwrthododd y chwaraewr canol cae cynnig newydd gan Blackpool er mwyn parhau i chwarae ar y lefel uchaf.
“Roedd yn gynnig da iawn ac yn benderfyniad anodd, ond rwy’n awyddus i aros yn yr Uwch Gynghrair a phrofi fy hun ar y lefel uchaf,” meddai David Vaughan.
“Roedd yn anffodus nad oedden ni wedi gallu aros lan tymor diwethaf – roedd hynny’n siom aruthrol.
“Mae’r tair blynedd gyda Blackpool wedi bod yn wych ac rydw i eisiau diolch i’r cefnogwyr a’r staff. Fe fydda i’n gadael y clwb ag atgofion da.
“Oni bai am Blackpool efallai na fydden i wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair, felly mae’n rhaid i mi ddiolch i’r clwb a’r rheolwr.”
Mae Sunderland a West Brom eisoes wedi mynegi diddordeb yn y Cymro.