Lee Hunt
Mae ymosodwr Prestatyn, Lee Hunt, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd â’r Bala.

Mae Hunt wedi sgorio’n gyson i amryw o dimau yn Uwch Gynghrair Cymru ers ymuno â  Bangor oddi wrth Helsby yn 2002.

Symudodd i chwarae i’r Rhyl ym mis Rhagfyr 2003 cyn symud i Barrow yn 2008 ar ôl honni ei fod wedi cael ei dargedu’n annheg gan ddyfarnwyr Uwch Gynghrair Cymru.

Dychwelodd Hunt i Belle Vue y tymor canlynol ar ôl cael ei ryddhau gan Barrow cyn ymuno â Bangor unwaith eto ym mis Chwefror 2010.

Aeth yn ei flaen i chwarae i Brestatyn y tymor diwethaf gan sgorio 16 gôl i’r clwb ac ennill ei le yn nhîm y flwyddyn.

Mae Hunt wedi sgorio 123 o goliau mewn 218 o ymddangosiadau  i Fangor, Y Rhyl, a Phrestatyn.

Mae’r Bala wedi dweud eu bod  nhw wrth eu bodd yn cael arwyddo Lee Hunt a bod y newyddion yn dangos uchelgais y clwb i fod yn dîm cystadleuol yn Uwch Gynghrair Cymru.