Craig Bellamy
Mae’n ymddangos yn bur annhebygol y bydd Caerdydd yn gallu arwyddo Craig Bellamy yn barhaol, wrth i adroddiadau awgrymu bod Man City yn gofyn £4 miliwn amdano.

Mae rheolwr Man City, Roberto Mancini, eisiau rhyddhau Bellamy wrth iddynt geisio cydymffurfio gyda rheolau ariannol newydd Uefa.

Mae’r rheolau newydd yn ceisio sicrhau tegwch ariannol a chyfyngu ar wariant clybiau yn ôl eu hincwm.

Mae’n golygu bod cytundeb arall gan Man City i anfon Bellamy allan ar fenthyg a thalu mwyafrif o’i gyflog £95,000 yr wythnos yn annhebygol eleni.

Mae Man City hefyd yn awyddus i adennill rhan o’r £15 miliwn oedden nhw wedi talu amdano ac maen nhw’n awyddus i sicrhau trosglwyddiad parhaol.