Mae cadeirydd Watford, Graham Taylor, wedi dweud nad yw’n synnu bod Malky Mackay wedi ei enwi mewn cysylltiad â’r swydd wag yng Nghaerdydd.

Mae cadeirydd yr Adar Glas, Dato Chan Tien Ghee, wedi hedfan o Falaysia dros y penwythnos i drafod yr ymgeiswyr â phrif weithredwr a chyfarwyddwyr y clwb.

Mae disgwyl i Gaerdydd wneud cais swyddogol i gael caniatâd gan Watford i siarad â Malky Mackay heddiw.

“Ar hyn o bryd, does yr un clwb wedi cysylltu â ni ynglŷn â Malky. Ond mae’n anodd gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd ym mhêl droed,” meddai Graham Taylor.

“Mae Malky yn ei gysylltu â bron i bod swydd wag oherwydd y gwaith da mae wedi gwneud gyda ni yn Watford – mae hynny i’w ddisgwyl.”

Mae Caerdydd yn ystyried Chris Hughton, Roberto Di Matteo a Lee Clark am y swydd hefyd.

Mae Prif Weithredwr yr Adar Glas, Gethin Jenkins, eisoes wedi dweud bydd y clwb yn penodi eu rheolwr newydd ryw ben yr wythnos yma.