Dave Jones
Mae cyn rheolwr Newcastle Utd, Chris Hughton, yn parhau yn ffefryn i olynu Dave Jones yn rheolwr Caerdydd.

Ond mae dau reolwr ifanc talentog hefyd ymysg yr ymgeiswyr posib.

Mae rheolwr presennol Watford, Malky Mackay, ynghyd a Lee Clark, o Huddersfield, ymysg yr enwau sy’n cael eu crybwyll ar gyfer y swydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Mackay wedi gwneud gwaith da yn Vicarage Road gan greu tîm cystadleuol ar gefn chwannen, tra bod Clark wedi arwain Huddersfield Town i’r trydydd safle yng Nghynghrair Un eleni.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pwy sydd wedi eu cyfweld ar gyfer y swydd, ond mae’r clwb yn gobeithio cwblhau’r broses o fewn y dyddiau nesaf a phenodi rheolwr newydd cyn diwedd yr wythnos.

Mae Chris Hughton wedi dweud dros y penwythnos ei fod yn awyddus i ddychwelyd i reoli wedi saith mis heb swydd yn dilyn ei ddiswyddiad gan Newcastle Utd. Fe ddywedodd Hughton ei fod eisiau swydd ar y lefel uchaf posib.

Mae Roberto Di Matteo hefyd ymysg y rheini sy’n cael eu hystyried ac mae’n rhydd i ddechrau swydd newydd yn dilyn ei ddiswyddiad gan West Brom.

Gyda Mackay a Clark o dan gytundebau, fe allai Hughton neu Di Matteo apelio mwy i’r Adar Glas gan na fyddai angen talu iawndal i glybiau am eu gwasanaethau.