Mae yna adroddiadau bod Watford wedi derbyn cynnig o £3.5 miliwn gan Abertawe am eu hymosodwr Danny Graham.

Mae’r Elyrch wedi cynyddu’r swm i arwyddo prif sgoriwr y Bencampwriaeth eleni ar ôl i Watford wrthod cynnig o £3 miliwn yr wythnos diwethaf.

Mae disgwyl i Abertawe ragori ar West Brom a QPR yn y ras i arwyddo Graham ar ôl i’w cynigion hwy gael eu gwrthod yn ddiweddar.

Roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn arfer rheoli Watford ac mae’n edmygu talentau’r Sais.

Ceisiodd Rodgers arwyddo’r ymosodwr flwyddyn yn ôl, ond fe gafodd cais yr Elyrch ei wrthod gan Watford.

Mae Abertawe yn awyddus i arwyddo ymosodwr newydd nawr bod Fabio Borini, a dreuliodd cyfnod ar fenthyg gyda’r clwb, wedi cytuno i ymuno gyda Parma yn yr Eidal.