Mae capten Chelsea, John Terry, wedi dweud y byddai’n hapus i weld Mark Hughes yn cymryd yr awenau yn Stamford Bridge. 

 Mae Chelsea yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn diswyddiad Carlo Ancelotti, ac mae Mark Hughes yn rhydd i siarad â chlybiau eraill ar ôl iddo roi’r gorau i’w swydd gyda Fulham yr wythnos yma. 

 Fe dreuliodd Hughes dair blynedd yn chwarae i Chelsea rhwng 1995 a 1998, gan ennill Cwpan yr FA gyda’r clwb. 

 “Fe fyddai gan Mark Hughes y gallu, mae eisoes wedi dangos hynny.  Rwy’n gobeithio bod y clwb yn siarad gydag ef,” meddai John Terry. 

 “Rwy’n adnabod Mark a’i dîm hyfforddi.  Fe fydden nhw i gyd yn deall y clwb a beth mae’n golygu i’r cefnogwyr.

 “Os mae Mark Hughes fydd rheolwr newydd y clwb, fe fydd y chwaraewyr yn croesawu’r newyddion.”