Mae yna adroddiadau bod Abertawe wedi cynnig £3 miliwn i Watford am eu hymosodwr Danny Graham. 

 Roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn arfer rheoli Watford ac mae’n edmygu talentau’r Sais. 

 Ceisiodd Rodgers arwyddo’r ymosodwr flwyddyn yn ôl, ond fe gafodd yr Elyrch eu gwrthod gan Watford. 

 Ond mae Abertawe mewn sefyllfa gref eleni gyda dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn golygu mwy o arian i wario, gan greu fwy o apêl i’r chwaraewr symud i’r Stadiwm Liberty. 

 Mae QPR a West Brom eisoes wedi methu gyda chynigion o £2.5 miliwn am Danny Graham, ac nid yw Watford wedi penderfynu derbyn cynnig yr Elyrch hyd yn hyn. 

 Mae Abertawe yn awyddus i arwyddo ymosodwr newydd nawr bod Fabio Borini, a dreuliodd cyfnod ar fenthyg gyda’r clwb, wedi cytuno i ymuno gyda Parma yn yr Eidal.