Adam Matthews
Gobaith Adam Matthews yw y bydd ymuno gyda Celtic yn ei alluogi i chwarae’n gyson dros Gymru. 

 Mae cyn-amddiffynnwr Caerdydd wedi ymuno gyda chewri pêl droed yr Alban ar ôl i’w gytundeb gyda’r Adar Gleision ddod i ben. 

Yn nhyb Matthews mae Celtic yn chwarae ei fath ef o bêl-droed, ac mae’n gobeithio chwarae’n gyson i’r clwb. 

 “Rwy’n amddiffynnwr ymosodol ac rwy’n credu bod Celtic yn gweddu fy steil o chwarae,” meddai Adam Matthews. 

 “Mae’r cefnwyr sydd yma’n barod yn dueddol o ymosod tipyn a dyna’r ffordd rwy’n hoffi chwarae.

 “Os gallaf baratoi’n dda dros yr haf fe  fydd cyfle gennyf i chwarae’n gyson.  Felly rwy’n edrych ymlaen i’r her.

 “Os gallaf wneud hynny, fe fydda i wedyn yn targedu lle yn y tîm cenedlaethol.”

 Roedd Matthews wedi chwarae 48 gwaith i Gaerdydd, ac mae’n ymuno gyda Chymro arall, Joe Ledley gynt o Gaerdydd, yn Glasgow Celtic ar gyfer y tymor i ddod.