Steve Morison yng nghrys Cymru
 Mae Norwich  wedi dod i gytundeb gyda Millwall i arwyddo’r ymosodwr Steve Morison. 

 Mae Millwall wedi rhoi’r hawl i’r Canaries siarad gyda’r Cymro ynglŷn â’r posibiolrwydd o symud i Carrow Road a chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf. 

 Mae Norwich wedi dweud bod y cytundeb i arwyddo Morison yn dibynnu ar yr ymosodwr yn pasio’r profion meddygol.  

 Sgoriodd Steve Morison 17 gôl i Millwall yn y Bencampwriaeth yn ystod y tymor sydd newydd orffen, ac mae’n aelod cyson o garfan Cymru ers ennill ei gap cyntaf yn erbyn Luxembourg fis Awst llynedd. 

 Dechreuodd Morison ei yrfa gyda Northampton Town cyn symud i Bishop Stortford a Stevenage Borough.  Ymunodd gyda Millwall ym mis Mai 2009 am £130,000. 

 Nid yw Norwich wedi datgelu faint yn union maen nhw’n bwriadau talu am y Cymro, ond mae yna adroddiadau y bydd Millwall yn derbyn £2.8 miliwn.