Mark Hughes
Mae yna ddirgelwch tros ddyfodol cyn reolwr Cymru, Mark Hughes, ar ôl iddo adael Fulham ar ôl dim ond blwyddyn.

Er mai ef yw ffefryn y bwcis i gael y swydd wag yn Aston Villa, mae’r clwb ac yntau’n gwadu hynny.

Fe ddywedodd mewn datganiad ei fod wedi penderfynu symud er mwyn “ehangu” ei brofiadau ac roedd ei gytundeb yn caniatáu iddo fynd.

Dim ond datganiad dwy frawddeg sydd ar wefan Fulham, yn dweud bod Mark Hughes wedi cynnig ei notis yn unol â’i gytundeb a bod y clwb, “ar ôl trafod gyda Mark”, wedi penderfynu ei dderbyn.

‘Dim dylanwad o’r tu allan’

Yn ôl y rheolwr ei hun, doedd y penderfyniad i adael Fulham ddim wedi cael ei ddylanwadu gan neb o’r tu allan.

“Faswn i’n licio cymryd y cyfle yma i wneud yn glir nad ydw i na fy nghynrychiolydd wedi mynd i siarad gyda chlwb arall a does yr un clwb arall wedi dod aton ni,” meddai.

Mae yna enwau eraill yn y ffrâm ar gyfer swydd Aston Villa ond mae rhai’n dyfalu hefyd y gallai Hughes gael rhyw fath o swydd yn Chelsea.