Mae prif weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins wedi dweud nad yw’n debygol y bydd Craig Bellamy yn dychwelyd i’r clwb mewn rôl hyfforddwr. 

Roedd ‘na adroddiadau y galli’r Cymro ddychwelyd i’r clwb a chyfuno dyletswyddau chwarae a hyfforddi’r tymor nesaf. 

Ond mae Gethin Jenkins wedi dweud na fydd hynny’n debygol, ond fe fyddai’r clwb yn ei groesawu ‘nôl i chwarae am dymor arall. 

“Mae Craig wedi dweud ei fod am chwarae i ni’r tymor nesaf, ac fe fyddai hynny’n wych,” meddai Gethin Jenkins wrth Radio Cymru. 

“Fe fyddwn ni’n trafod y mater gyda Man City a’i asiant cyn gynted ag y bydd rheolwr newydd yn cael ei benodi”

Y ffefryn i’r swydd honno gyda’r cwmnïau betio ar hyn o bryd yw cyn rheolwr Celtic, Martin O’Neill. 

Mae prif weithredwr Caerdydd yn cydnabod y byddai’r gŵr o Ogledd Iwerddon ar restr fer y rhan fwyaf o glybiau. Ond fe ychwanegodd Gethin Jenkins y gallai ffactorau ariannol effeithio ar y posibilrwydd o weld O’Neill yn olynu Dave Jones. 

Enwau eraill sy’n cael eu crybwyll yw Alan Curbishley, Roberto Di Matteo, Chris Hughton, Billy Davies o Nottingham Forest a chyn hyfforddwr Lloegr, Steve McClaren. 

Cefnogaeth gan fuddsoddwyr

Mae’r buddsoddwyr o Falaysia, Tan Sri Vincent Tan a chadeirydd y clwb, Dato Chan wedi dweud eu bod nhw am barhau i gefnogi ymgais y clwb i ennill dyrchafiad

Mae’r clwb yn ceisio dod i gytundeb gyda chwmni Langston ynglŷn â’r dyledion sydd angen eu talu. Fe ddywedodd y clwb fod yn hynny’n profi’n anodd oherwydd safiad Sam Hamman sy’n cynrychioli Langston.

Mae’r clwb wedi cadarnhau na fydd Sam Hamman yn dychwelyd i Gaerdydd fel  cyfarwyddwr pêl-droed, nac i unrhyw rôl arall.