Speed - ennill o'r diwedd
Gogledd Iwerddon 0 Cymru 2

Fe gafodd rheolwr Cymru, Gary Speed, ei fuddugoliaeth gynta’ wrth i Gymru ennill yn hawdd yn Iwerddon.

Ond ychydig tros 500 o bobol oedd yno i weld y gêm, gyda Gogledd Iwerddon heb y rhan fwya’ o’u chwaraewyr adnabyddus.

Roedd yna deimlad hefyd y dylai Cymru fod wedi sgorio rhagor wrth iddyn nhw reoli’r gêm o’r dechrau i’r diwedd.

Wedyn fe ddywedodd Speed ei fod yn falch ond fod gan Gymru waith caled iawn i’w wneud cyn gallu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.

Fe ddaeth y ddwy gôl o boptu i hanner amser – y gynta’ gan y capten ifanc, Aaron Ramsey, o ychydig tros ddecllath a’r llall gan Robert Earnshaw, wrth iddo ddangos sgiliau’r sgoriwr greddfol yn troi ac ergydio i’r gornel.