Joe Ledley
Mae chwaraewr Cymru, Joe Ledley, yn dweud ei fod wedi gwneud y penderfyniad iawn i adael Caerdydd am Celtic.
Ac mae wedi croesawu un arall o chwaraewyr y Gleision – Adam Matthews – sydd ar fin ymuno ag ef yn Glasgow.
Doedd Matthews ddim wedi bod yn cael llawer o gyfle yng Nghaerdydd, meddai’r chwaraewr canol cae profiadol, er ei fod yn “chwaraewr gwych” a bod llawer o glybiau ar ei ôl.
‘Dechrau newydd’
“Mae’n ddechrau newydd iddo fe ac fe fydd yn edrych ymlaen i chwarae o flaen cefnogwyr Celtic,” meddai Ledley. “Gobeithio y caiff le yn y tîm cynta’ a gwneud yn dda.”
Mae Ledley ei hun yn dweud ei fod wrth ei fodd yn chwarae yn Parkhead ac mae’n dweud ei fod yn gwella’n gynt na’r disgwyl o anaf i linyn y gar.
Er ei fod wedi colli ymddangosiad Celtic yn rownd derfynol Cwpan yr Alban, mae’n dweud ei fod bron â bod yn holliach eto.