Rob Earnshaw - sgoriwr a chapten
Cymru 1 Yr Alban 3

Mae rheolwr Cymru wedi condemnio’r trefnwyr a’r reff ar ôl i Gymru golli yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Cenhedloedd.

Roedd y dyfarnwr wedi methu ag amddiffyn chwaraewyr Cymru’n iawn, meddai Gary Speed, ac roedd hi’n annheg bod y tîm yn gorfod chwarae dwy gêm o fewn deuddydd i’w gilydd.

Mae eisoes wedi cyhuddo’r trefnwyr o drin Cymru’n eilradd yn y bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae’r canlyniad yn golygu ei fod wedi gweld ei gôl gynta’ i Gymru ers cymryd yr awenau – ond mae’n dal i aros am y fuddugoliaeth gynta’.

Dechrau da

Er hynny, roedd Cymru wedi dechrau’n dda, gyda gôl yn yr hanner cynta’ gan Rob Earnshaw – ei 15fed tros ei wlad – ond fe gawson nhw’u chwalu mewn cyfnod o chwarter awr yn yr ail.

Earnshaw oedd y capten hefyd wrth i Speed ddewis tîm oedd bron yn gyfangwbl yn chwaraewyr o’r Bencampwriaeth – gyda chapiau llawn cyntaf i Neil Taylor o Abertawe ac Owain Tudur Jones o Norwich.

Doedd y rhan fwya’ o chwaraewyr mwya’ Cymru ddim yn chwarae ond mae disgwyl iddyn nhw fod ar y cae ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Gogledd Iwerddon.