David Vaughan
Dyw chwaraewr canol cae Cymru, David Vaughan heb arwyddo i Sunderland er gwaethaf adroddiadau fel arall.

Mae dyfalu wedi bod am ddyfodol y Cymro Cymraeg o Abergele ers i’w glwb, Blackpool golli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.

Roedd adroddiadau cyn hynny bod Sunderland yn awyddus iawn i gael gafael ar y chwaraewr – mae ei gytundeb ar ben gyda Blackpool felly byddai’n cael symud i glwb arall am ddim.

Gwadu adroddiadau

Roedd nifer o flogiau a gwefannau cefnogwyr Blackpool yn honni ddoe bod Vaughan wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Sunderland, ond mae ei wraig wedi gwadu hynny ar wefan Twitter heddiw.

“Dim ond i glirio pethau fyny, dyw David DDIM wedi arwyddo i Sunderland” tydarodd Cat Vaughan bore yma.

Mae Vaughan wedi cael tymor arbennig o dda yn yr Uwch Gynghrair, ac ynghynt yn yr wythnos fe gipiodd wobr ‘Chwaraewr y Flwyddyn’ yng ngwobrau blynyddol ei glwb.

Yn ogystal â Sunderland, mae’n debyg bod Wigan, Bolton ac Everton yn awyddus i arwyddo dros yr haf.

Mae Blackpool hefyd wedi cynnig cytundeb newydd iddo, ond y tebygolrwydd yw bydd y Cymro’n symud i dîm sydd yn yr Uwch Gynghrair.

Dim cytundeb i Edwards

Un chwaraewr sydd heb gael cynnig cytundeb newydd gan Blackpool ydy’r Cymro Rob Edwards.

Mae’r amddiffynnwr 29 oed yn un o 11 o chwaraewyr sydd wedi eu rhyddhau gan y clwb ar ôl iddynt gwympo’n ôl i’r Bencampwriaeth.

Mae Edwards wedi cael tymor rhwystredig a phrin wedi chwarae i’r tîm cyntaf. Fe fu ar fenthyg gyda Norwich dros fisoedd olaf y tymor.