Gary Speed
Mae Gary Speed wedi dweud bod disgwyl i chwaraewyr Cymru chwarae dwy gêm o fewn tridiau yn annheg.

Fe wnaeth y sylwadau mewn cyfweliad sydd i’w weld ar wefan Sgorio bnawn Mawrth wrth drafod y gêm yn erbyn yr Alban yn Nulun heno.

“Mae gofyn i unrhyw chwaraewr chwarae dwy gêm mewn tridiau ar ddiwedd tymor caled yn annheg,” meddai Speed.

“Rydan ni wedi bod yn anlwcus gyda’r amserlen. Ni ydy’r unig dîm sy’n gorfod chwarae dwy gêm mewn tridiau ac mae’n mynd i fod yn anodd.”

“Rydyn ni eisiau ennill pob gêm, does dim amheuaeth am hynny, ond datblygiad y tîm a’r cynnydd sy’n cael ei wneud ydy’r flaenoriaeth.”

Jyglo’r garfan

Yn y cyfweliad mae rheolwr Cymru’n awgrymu y byddwn yn gweld tîm gwahanol iawn yn camu i’r maes heno o’i gymharu â hwnnw fydd yn herio Gogledd Iwerddon nos Wener.

“Dwi am i ni ennill y ddwy gêm ond mae’n rhaid i mi edrych ar ôl iechyd y chwaraewyr hefyd – y peth olfan sydd angen ar chwaraewr ydy mynd mewn i’r haf gydag anaf. Fe fyddwn ni’n jyglo’r garfan i wneud yn siŵr nad oes neb yn brifo.”

Mae’n debygol na fydd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr a oedd yn chwarae yng ngemau Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sul yn dechrau yn erbyn yr Alban.

Yn hytrach, bydd enwau fel Neal Eardley, Aaron Ramsey, David Vaughan, Danny Gabbidon, Danny Collins a Jack Collison yn cael eu gorffwys ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod.

Anrhydedd i’r capten

Un chwaraewr sy’n sicr o ddechrau yn erbyn yr Albanwyr ydy ymosodwr Nottingham Forrest, Robert Earnshaw.

Cyhoeddwyd ddoe mae Earnshaw fyddai’r capten ar gyfer y ddwy gêm, ac mae yntau wedi siarad am ei falchder o dderbyn y swydd mewn cyfweliad arall gyda Sgorio.

“Rwy wastad wedi eisiau bod yn gapten ar Gymru a chael arwain fy ngwlad, felly mae’n anrhydedd ac yn achlysur mawr i mi,” meddai’r cyn chwaraewr Caerdydd.

Mae gan Earnshaw a Chymru record dda yn erbyn yr Albanwyr yn ddiweddar. Fe sgoriodd Earnshaw hattrick yn erbyn Yr Alban yn y fuddugoliaeth o 4-0 i Gymru yn 2004.

Cymru oedd yn fuddugol eto yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad yn Nhachwedd 2009, gyda Aaron Ramsey’n serennu yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C heno. Bydd rhaglen Sgorio yn dechrau am 7:15 a’r gic gyntaf am 7:45.