Mae pob un o docynnau Abertawe gyfer y gêm yn erbyn Reading yn Wembley wythnos nesaf wedi eu gwerthu.

Roedd cefnogwyr y clwb wedi gorfod aros am gymaint â chwe awr y tu allan i’r Stadiwm Liberty er mwyn cael y cyfle i brynu tocyn.

Yn wreiddiol roedd Abertawe wedi cael 39,376 o docynnau ar gyfer y rownd derfynol ond fe gafodd y clwb docynnau ychwanegol i’w gwerthu yn hwyrach ymlaen.

Ond mae’r tocynnau yma wedi gwerthu allan hefyd ac fe fydd dros 40,000 o gefnogwyr yr Elyrch yn Wembley yr wythnos nesaf.

Teithio

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi rhybuddio cefnogwyr Abertawe i sicrhau fod ganddyn nhw ddigon o amser i gyrraedd Wembley ddydd Llun nesaf.

Bydd dros 40,000 o gefnogwyr yr Elyrch yn teithio i Lundain ddydd Llun i wylio rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn erbyn Reading.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn awyddus i atgoffa cefnogwyr na fydd alcohol yn cael ei ganiatáu ar drenau yn teithio i gyfeiriad prifddinas Lloegr.

Mae unrhyw gefnogwr sy’n ceisio mynd ag alcohol ar drên yn wynebu cael ei atal rhag teithio.

“Mae dydd Llun yn mynd i fod yn ddiwrnod ardderchog i gefnogwyr Abertawe ac fe fydd ein swyddogion yno i helpu pawb i fwynhau yn ogystal â sicrhau bod cefnogwyr yn teithio i’r gêm yn ddiogel,” meddai’r Prif Arolygydd Sandra England.

“Fe fydd swyddogion yn bresennol mewn gorsafoedd ac ar drenau rhwng De Cymru a Llundain ac ni fyddwn nhw’n caniatáu ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobol sy’n awyddus i ddifetha’r diwrnod.”