Rob Earnshaw
Mae ymosodwr Nottingham Forest, Rob Earnshaw, wedi ei benodi’n gapten ar Gymru ar gyfer gêm Cwpan y Cenhedloedd yn erbyn yr Alban nos yfory.

Bydd cyn-chwaraewr Caerdydd yn ennill cap rhif 53 dros ei wlad wrth iddo arwain ei wlad yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Bydd Ramsey, sydd wedi cael ei benodi’n gapten llawn amser ar Gymru gan y rheolwr Gary Speed, yn cael ei orffwys .

Ond fe fydd chwaraewr canol cae Arsenal yn dychwelyd i arwain ei wlad yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Wener.

“Gyda’r ddwy gêm yn agos at ei gilydd mae’n ormod i ofyn i’r chwaraewyr gymryd rhan yn y ddwy,” meddai Gary Speed.

“Mae’n siwr y bydd 90% o’r chwaraewyr sy’n chwarae nos yfory heb chwarae ddydd Sul.

“Fy mlaenoriaeth yw ennill y gemau a hefyd gwarchod iechyd y chwaraewyr.”