Y Cae Ras
Mae yna adroddiadau bod perchnogion Wrecsam yn ystyried gwerthu’r clwb i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.

Daw hyn ar ôl i’r dyn busnes Colin Poole ddweud na fydd yn cefnogi cynnig Jon Harris i brynu’r clwb yn dilyn ffrae â rhai o gefnogwyr Wrecsam.

Mae Jon Harris, sydd newydd gael ei benodi’n rheolwr cyfarwyddwr y clwb, wedi dweud  ei fod yn mynd i barhau gyda’r ymgais i brynu’r clwb.

Ond mae’n bosib y bydd y perchnogion yn gwerthu i’r cefnogwyr, am nad oes yna unrhyw gynigion credadwy eraill.

Mae Stephanie Booth, sydd eisoes wedi tynnu ‘nôl o brynu’r clwb, bod y perchnogion Geoff Moss ac Ian Roberts ar fin cadarnhau gwerthiant y clwb i’r ymddiriedolaeth.

Yn ôl y fenyw fusnes yr unig rai mae’r cefnogwyr heb eu bygwth yw’r ymddiriedolaeth ac oherwydd hynny, byddai’n well iddyn nhw gael prynu’r clwb.

“Fe gânt nhw gael y clwb a gweld beth ddaw o hynny,” meddai Stephanie Booth wrth bapur newydd y Western Mail.