Ffirdd Farrar - torf fwya'r tymor
Mae maint torfeydd yn awgrymu bod yr arbrawf i dorri maint Uwch Gynghrair Cymru wedi llwyddo.

Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae maint y torfeydd yn nhymor cynta’r Deuddeg Disglair wedi codi bron 25% yn uwch nag yn y tymor diwetha’.

Roedd y rowndiau cwpan ar ddiwedd y tymor hefyd yn llwyddiant – yn ôl gwefan Welsh Premier roedd 551 o gefnogwyr ar gyfartaledd wedi gwylio’r pedair gêm ail gyfle ar gyfer y Cynghrair Europa.

Roedd hyn wedi helpu codi’r cyfartaledd am y tymor i 343 o’i gymharuâ a 276 yn ystod tymor 2009/10.

Y manylion

  • Bangor a gafodd dorf fwya’r tymor – 1,707 yn Ffordd Farrar – a hynny i weld tîm Nev Powell yn sicrhau’r bencampwriaeth yn erbyn y Seintiau Newydd.
  • Roedd 12,751 o gefnogwyr wedi gwylio Bangor yn ystod y tymor- cynnydd o 74.4% ar dymor 2009/10.
  • Roedd 988 yn y Gnoll i wylio Castell-nedd yn curo Prestatyn hefyd yn rownd derfynol gêmau ail gyfle’r Cynghrair Europa dros y penwythnos.
  • Roedd sêr tebyg i Lee Trundle a Kristian O’Leary wedi helpu Castell-nedd i godi eu torfeydd i gyfartaledd o 584 – cynnydd o 164% ar y tymor cynt.
  • Fe gynyddodd torfeydd gyda sawl clwb arall hefyd- Airbus UK- 29.4%, Caerfyrddin7%, Y Seintiau Newydd 4.6% a Phort Talbot 0.6%.

Y collwyr

Ond roedd yna gwymp i rai clybiau, gyda’r Bala’n gweld 28% yn llai o gefnogwyr ym Maes Tegid y tymor hwn a Llanelli a’r Drenewydd yn cwympo 26.6% ac 20%. Roedd torfeydd Aberystwyth a Hwlffordd fel ei gilydd i lawr fwy na 12%.