Jay Bothroyd
Fydd prif sgoriwr Caerdydd ddim yn chwarae i’r clwb y tymor nesa’ – un o res o chwaraewyr y tîm cynta’ sy’n gadael.

Fe gyhoeddodd y clwb heddiw eu bod wedi methu â dod i gytundeb gyda Jay Bothroyd a’r asgellwr Chris Burke ac y bydd y ddau’n gadael.

Maen nhw wedi cadarnhau hefyd y bydd yr amddiffynnwr ifanc Adam Matthews yn gadael i fynd i Celtic ac mae Gavin Rae ymhlith y rhai eraill sy’n mynd.

Gorfod ail-adeiladu carfan

Ar ôl i’r clwb fethu â chael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, fe fydd rhaid i’r rheolwr ail-adeiladu carfan gyfan ar gyfer y tymor nesa’, gyda saith o chwaraewr tîm cyntaf ar fenthyg ac yn mynd yn ôl i’w clybiau gwreiddiol.

Mae’r rheiny’n cynnwys sêr Cymru, Craig Bellamy a Jason Koumas, a chwaraewyr addawol fel Seyi Olofinjana, Jlloyd Samuel a Jay Emmanuel-Thomas.

Mae pump o chwaraewyr ifanc sydd wedi dod trwy’r timau ieuenctid yn cael cytundebau.

Ansicr o hyd yw dyfodol rheolwr Caerdydd, David Jones – fe allai ei dynged gael ei setlo yr wythnos hon.