Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi dweud eu bod nhw bron a gwerthu pob un o’u tocynnau ar gyfer rownd terfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Wembley yr wythnos nesaf.

Dim ond ychydig dros 3,000 o’r 39,376 o docynnau sydd ar ôl i gefnogwyr yr Elyrch. Maen nhw yn cael eu gwerthu o swyddfa docynnau Stadiwm Liberty, fydd yn agor drachefn am 10am yfory.

Bydd Abertawe yn herio Reading yn Wembley ar ddydd Llun 30 Mai, sy’n ŵyl y banc.

Curodd yr Elyrch Nottingham Forest 3 – 1 er mwyn cyrraedd y rownd derfynol, tra bod Reading wedi maeddu Caerdydd 3 – 0.

Dywedodd y clwb fod rhai cefnogwyr wedi disgwyl am dros chwe awr yn Stadiwm Liberty am docyn i’r gêm.

Mae cefnogwyr sy’n berchen tocynnau tymor ac sy’n aelod o ymddiriedolaethau’r clwb neu’r cefnogwyr wedi cael blaenoriaeth. Fe aeth gweddill y tocynnau ar werth i’r cyhoedd ddydd Sadwrn.