Gary Speed
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed wedi dweud byddai’r tîm cenedlaethol yn elwa pe bai Abertawe’n ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond hyd yn oed os bydd yr Elyrch yn colli yn erbyn Reading yn Wembley yn rownd derfynol y gêmau ail gyfle, mae’n dal i gredu y bydd Cymru’n elwa.

Mae gan Speed chwaraewyr yn y ddau dîm ac mae’n credu y bydd y gêm yn hwb i bêl-droed Cymru.

“Pe bai Abertawe’n ennill dyrchafiad mi fyddai o fudd i Gymru ac yn codi proffil pêl-droed y wlad,” meddai Gary Speed.

“Maen gynnon ni chwaraewyr da gydag Abertawe ac mi fyddai’n wych iddyn nhw gyrraedd yr Uwch Gynghrair.”

Cwpan y Cenhedloedd

Oherwydd y rownd derfynol, fydd chwaraewyr Reading na’r rhan fwya’ o rai Abertawe ddim ar gael i Speed ar gyfer.

Ond fe fydd Neil Taylor a David Cotterill ar gael o blith yr Elyrch, am fod Taylor wedi’i wahardd o’r rownd derfynol a Cotterill wedi bod ar fenthyg gyda Portsmouth.

Mae Gary Speed yn gobeithio chwarae dau dim gwahanol yn y gêmau’n erbyn yr Alban a Gogledd Iwerddon – mae’r ddwy o fewn tridiau i’w gilydd.