Bathodyn CPD Wrecsam
Mae asgellwr Wrecsam, Adrian Cieslewicz, wedi ymrwymo ei hun i’r clwb ar gyfer y tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb 18 mis gyda’r Dreigiau.

Dywedodd y chwaraewr ifanc o Wlad Pwyl ei fod yn hapus i sicrhau ei ddyfodol gyda’r clwb cyn dychwelyd i’w wlad enedigol am rai wythnosau nawr bod y tymor ar ben.

“Roedd gen i rai opsiynau eraill, ond rydw i’n teimlo mae dyma’r gorau ac rwy’n hapus i gael aros gyda Wrecsam,” meddai Adrian Cieslewicz.

“Rwy’n hapus bod popeth wedi cael ei drefnu cyn i mi adael ar fy ngwyliau. Roedd y tîm wedi gwneud yn dda eleni ac r’yn ni’n gobeithio cynnal yr un safon y tymor nesaf.

“Rwy’n gobeithio cael y cyfle i chwarae mwy o gemau a sgorio mwy o goliau i’r clwb.

“Dw i wedi bod gyda Wrecsam ers dwy flynedd ac rwy’n teimlo’n gartrefol yma. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed.”