Brendan Rodgers yn dathlu
Mae Joe Allen wedi dweud y gallai’r clwb wella eto gyda Brendan Rodgers wrth y llyw.

Mae’r Cymro ifanc hefyd wedi talu teyrnged i’r rheolwr am ddangos ffydd ynddo a’i helpu i ddatblygu ar y cae.

“Mae’n beth braf gwybod bod mwy i ddod wrth y rheolwr,” meddai Joe Allen wrth y Western Mail.

“Roedd Brendan wedi creu argraff ar bawb yn syth ar ôl cael ei benodi. Mae ei steil o bêl droed yn gweddu at bawb.

“R’yn ni’n ddiolchgar iawn ei fod yn rheolwr y clwb.  Roedd y clwb eisiau penodi rheolwr oedd yn mynd i fod eisiau chwarae’r un math o bêl droed a’r rheolwyr cynt.  Ond mae Brendan wedi cyfrannu mwy ar ben hynny.”

Doedd Joe Allen ddim yn disgwyl chwarae mor gyson i’r Elyrch eleni oherwydd safon rhai o chwaraewyr canol cae eraill y clwb.

“Mae Brendan wedi dangos ffydd ynof fi. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac mae wedi bod yn hwb mawr i fy hyder,” meddai.

“Rwy’n teimlo fy mod i wedi datblygu ac rwy’n hoffi meddwl mai dyma yw fy nhymor gorau hyd yn hyn.”