Dave Jones, hyfforddwr Caerdydd
Mae Prif Weithredwr Caerdydd wedi dweud bod angen amser i gynnal adolygiad o’r tymor sydd wedi mynd heibio cyn dod i unrhyw benderfyniad ynglŷn â dyfodol y rheolwr Dave Jones.

Dwedodd Gethin Jenkins fod y clwb yn “siomedig iawn” nad oedden nhw wedi llwyddo i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr eleni.

Ond ychwanegodd fod yna sawl ddatblygiad cadarnhaol yn ystod y tymor.  Roedden nhw’n ystyried cadw Craig Bellamy â’r clwb, meddai.

“Fe fydd rhaid i bawb eistedd lawr ac adlewyrchu ar beth sydd wedi digwydd,” meddai.

“Mae angen i ni adolygu’r tymor, gweld beth oedd yn dda ac yn ddrwg a  dysgu gwersi o hynny.

“Mae Dave Jones yn rheolwr profiadol ac ardderchog ac fe fydd yn rhan o’r broses adolygu.

“Fe fyddwn ni’n ystyried dyfodol pawb. Ond ar hyn o bryd mae’n rhy gynnar i ddweud a yw’n bryd cael rheolwr newydd wrth y llyw.

“Er gwaetha’r siom o golli i Reading mae wedi bod yn dymor cadarnhaol ar y cyfan.”

Mae’r prif weithredwr wedi dweud nad yw’n credu bod y siom o fethu a sicrhau dyrchafiad yn mynd i atal eu buddsoddwyr o Falaysia rhag cefnogi’r clwb yn ariannol.