Dave Jones
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn un o’r ffefrynnau i olynu Avram Grant yn West Ham.
Yn dilyn y siom o fethu a sicrhau dyrchafiad gyda Chaerdydd eleni, mae Dave Jones wedi dweud bod angen iddo ystyried ei ddyfodol.
Mae cydberchennog yr Hammers, David Sullivan, wedi dweud fod y clwb yn bwriadu penodi rheolwr Prydeinig.
Ond yn ôl adroddiadau mae rhai o’r ffefrynnau ar gyfer y swydd eisoes wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb.
Mae cyn hyfforddwr Lloegr, Steve McClaren, wedi dweud nad yw’n awyddus i reoli West Ham, ac mae Martin O’Neill yn debygol o wrthod unrhyw gynnig gan y clwb o Lundain.
Yn ôl adroddiadau does dim diddordeb gan reolwr Brighton, Gus Poyet, yn y swydd yn Upton Park, am ei fod yn teimlo nad oedd ei gyd-chwaraewr yn ei ddyddiau gyda Chelsea, Gianfranco Zola, wedi ei drin yn deg gan y clwb yn ystod ei amser wrth y llyw.
Mae cyn-reolwr Bolton, Sam Allardyce, a Chris Hughton, a enillodd dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda Newcastle, hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd.
Ond mae gan Dave Jones lawer iawn o brofiad yn y Bencampwriaeth. Mae wedi ennill dyrchafiad gyda Wolves, yn ogystal â mynd yn agos gyda’r Adar Glas, yn ystod y ddau dymor diwethaf.
Fe allai hynny fod yn fantais iddo wrth i West Ham chwilio am reolwr fydd yn rhoi’r cyfle iddynt ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair cyn gynted â phosib.