Stadiwm Dinas Caerdydd
Reading fydd yn herio Abertawe yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar ôl maeddu Caerdydd 3 – 0 heno.

Mae Caerdydd wedi cael enw drwg am wneud cawlach o bethau yn ystod y gemau mawr, ac ni fydd y gêm hon yn gwneud unrhyw beth i chwalu’r canfyddiad hwnnw.

Bydd rhaid i Gaerdydd ddisgwyl tymor arall cyn herio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ond fe fydd yna ddyfalu am ddyfodol sawl chwaraewr yn ogystal â’r hyfforddwr, Dave Jones.

Daeth y gôl gyntaf i Reading drwy gamgymeriad gan gôl-geidwad Caerdydd, Stephen Bywater. Ciciodd y bêl yn erbyn Shane Long a darodd y bêl i gefn y rhwyd o 25 llath.

Bydd Caerdydd yn teimlo eu bod nhw wedi cael amser caled gan y dyfarnwr Howard Webb, a anwybyddodd tair cais am gic o’r smotyn.

Pan ddaeth y gic o’r diwedd Reading oedd yn ei chymryd hi, ar ôl i Decal Keinan gydio yn Matt Mills wrth amddiffyn cic gornel. Sgoriodd Shane Long o’r smotyn.

Gwthiodd Caerdydd yn galed yn yr ail hanner, ond roedd y glaw yn dod i lawr yn drwm a’r dorf wedi tawelu.

Caeodd Jobi McAnuff ben y mwdwl chwe munud cyn y chwiban olaf drwy faeddu dau o amddiffynwyr Caerdydd a saethu’r bêl heibio i Stephen Bywater.

Bydd Reading yn herio Abertawe yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Wembley, Llundain am 3pm ar 30 Mai.

Maeddodd Abertawe Nottingham Forest 3 -1 yn Stadiwm Liberty ddoe.