Bydd Prestatyn yn wynebu Castell-nedd yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Europa yn dilyn buddugoliaeth hwyr yn erbyn Port Talbot ar Ffordd Bastion.
Roedd y tîm cartref 1-0 ar ei hôl hi gyda chwe munud yn weddill pan sgoriwyd dwy gôl mewn pedair munud i ennill y gêm.
Roedd Lee Surman wedi rhoi Port Talbot ar y blaen wedi hanner awr ac fe reolwyd y chwarae am rannau helaeth o’r gêm.
Fe ddaeth y trobwynt i Brestatyn pan gafwyd cic o’r smotyn ym munudau olaf y gêm ar ôl i Paul O’Neill gael ei faglu yn y cwrt cosbi.
Llwyddodd Lee Hunt i ddod o hyd i gefn y rhwyd ag unioni’r sgôr i dîm Neil Gibson.
Gyda dwy funud yn weddill fe sgoriodd David Hayes oddi ar gic cornel i sicrhau’r fuddugoliaeth a chynnal eu gobeithion o chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.
Castell-nedd
Mae Castell-nedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dilyn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Aberystwyth ar y Gnoll.
Fe sgoriodd y tîm cartref eu goliau o fewn dwy funud i’w gilydd yn yr hanner cyntaf gyda Craig Hughes a Paul Fowler yn canfod cefn y rhwyd.
Fe allai cyn-ymosodwr Abertawe, Lee Trundle, fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth ond fe gafodd ei gic o’r smotyn ei arbed gan Steve Cann.
Fe sgoriodd Jay McCarten gôl ym munud olaf y gêm i Aberystwyth ond roedd yn rhy hwyr i gael effaith ar y gêm.